28
|
2. Cyfarfodydd blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Blynyddol diwethaf.
Cyfarfod 1.
Dyddiad: 4 Tachwedd 2015
Yn bresennol: Aled Roberts AC; Jackie Radford; Henry Wilkins (cynrychiolydd grŵp Caerfyrddin); Lindsay Morgan (cynrychiolydd grŵp Abertawe); Jeff Cuthbert AC; Mike Hedges AC; Carol Carpenter (cynrychiolydd grŵp Clwyd); Jead Dowding (cynrychiolydd grŵp Caerdydd); Lisa Bainbridge (Coeliac UK); Sarah Sleet (Coeliac UK); Rhun ap Iorwerth AC; Dr. Geraint Preest; Graham Philips (cynrychiolydd grŵp Abertawe).
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
· Y wybodaeth ddiweddaraf am hynt y fenter Gwarant dim Glwten- rhoddodd Prif Weithredwr Coeliac UK, Sarah Sleet, wybodaeth am y fenter Gwarant dim Glwten. Gwnaed llawer o gynnydd, ond bydd Coeliac UK yn parhau i adolygu’r ymgyrch. Cafwyd trafodaeth ynghylch yr her o annog rhagor o siopau i fod yn rhan o’r ymgyrch.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd yr Aelodau Cynulliad a oedd yn bresennol i ystyried cyflwyno datganiad
o farn ar y cyd i annog siopau llai i werthu rhagor o nwyddau heb glwten.
· Gorfodi a labelu- cafwyd trafodaeth ynghylch labeli Gwarant dim Glwten yng Nghymru a chyfeiriwyd at achrediad Coeliac UK ac effaith arfaethedig y ddeddfwriaeth UE a ddaw i rym ar 14 Rhagfyr 2014.
Camau i’w cymryd:
Cytunwyd i anfon llythyr at y Byrddau Iechyd Lleol i holi sut y maent yn mynd
ati i restru alergenau mewn ysbytai a sut y byddant yn addasu i’r newidiadau ar
ôl mis Rhagfyr 2014.
·
Darpariaeth well mewn ysgolion – Cafwyd trafodaeth ynghylch y ddarpariaeth mewn ysgolion, gan
gynnwys hyfforddiant a chyfrifoldeb. Trafodwyd safoni’r ddeddfwriaeth yn ymwneud ag ysgolion ac ysbytai
a'r ymchwiliad a gynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad i Arlwyo
mewn Ysbytai yn dilyn Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Ystyriwyd hefyd y
cyfleoedd a gaiff eu creu yn sgil y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) arfaethedig.
Camau i’w cymryd: Coeliac UK i adolygu'r cynigion ar gyfer gwelliannau posibl a
chynhyrchu pecyn i ysgolion Cymru yn benodol.
· Ymgyrch Diagnosis- Tynnodd Coeliac UK sylw at yr ymgyrch arfaethedig i ennyn diddordeb y cyhoedd mewn pecyn hunanasesu clefyd seliag yn seiliedig ar ganllawiau NICE ar adnabod ac asesu.
Camau i’w cymryd: AR/JR i holi'r Gweinidog neu Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad ynghylch defnyddio Infomatica ym meddygfeydd Cymru.
· Meysydd cyfrifoldeb- Cytunodd Aelodau'r Cynulliad i ysgwyddo meysydd cyfrifoldeb penodol a chaiff hyn ei gadarnhau yn y cyfarfod nesaf.
-----
Cyfarfod 2.
Dyddiad y cyfarfod: 24 Chwefror 2015
Yn bresennol: Aled Roberts (Cadeirydd); Jackie Radford (Ysgrifennydd); Jeff Cuthbert AC; Dr. Geraint Preest (Golygydd Clinigol Meddygon Teulu – y BMJ - Archwilio); Dr. Jill Swift (Gastroenterolegydd – Caerdydd a’r Fro); Lindsey Dr Morgan (cynrychiolydd grŵp Abertawe); Dr Dai Lloyd (cynrychiolydd grŵp Abertawe); Norma McGough (Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil ac Ymgyrchoedd-Coeliac UK); Lisa Bainbridge (Rheolwr Ymgyrchoedd -Coeliac UK); Tristan Humphreys (Arweinydd cangen Cymru o Coeliac UK); Jean Dowding (cynrychiolydd grŵp Caerdydd); Graham Phillips (cynrychiolydd grŵp Abertawe).
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
· Meysydd cyfrifoldeb- Cadarnhaodd y grŵp feysydd cyfrifoldeb pob Aelod Cynulliad yn y grŵp.
·
Llythyr at y Byrddau Iechyd Lleol- Cytunwyd ar destun y llythyr i’w anfon at y Byrddau Iechyd Lleol.
Camau i’w cymryd: Llythyr gan y Cadeirydd at bob Bwrdd Iechyd Lleol.
· Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu – Gallai’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru) newydd gyfeirio at hyfforddiant i ddarparu bwydydd heb glwten, a chytunwyd y dylid archwilio’r Bil i weld beth sydd wedi'i gynnwys ynddo.
Camau i’w cymryd: Jackie Radford i archwilio’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru) i weld a yw’n cyfeirio at faterion yn ymwneud â chlefyd seliag a darparu bwydydd heb glwten.
· Papur trafod y Llwybr- Cafwyd trafodaeth ar y papur a gyflwynwyd gan ganolbwyntio ar y gwersi posibl i’w dysgu o’r cynllun arbrofol a gynhaliwyd yn yr Alban i roi bwydydd heb glwten ar bresgripsiwn. Camau i’w cymryd: Coeliac UK a Jackie Radford i ddrafftio llythyr at y Gweinidog Iechyd yn holi am roi bwydydd heb glwten ar bresgripsiwn yng Nghymru.
·
Meddalwedd archwilio’r BMJ – Cafwyd cyflwyniad ar feddalwedd archwilio
newydd roedd y BMJ yn ei datblygu i helpu meddygon teulu benderfynu a oedd claf
yn dioddef o glefyd seliag ai peidio a’r posibilrwydd o ehangu’r defnydd o’r
feddalwedd.
Camau i’w cymryd: Dr Preest i adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf ar y trefniadau
angenrheidiol i ehangu’r defnydd o’r feddalwedd yn ddiogel.
·
Ymgyrch diagnosis – rhoddodd Coeliac UK y
wybodaeth ddiweddaraf am lansio’r ymgyrch newydd a'r penderfyniad i gynnal digwyddiad
lansio yn y Senedd ar 12.05.15.
Camau i’w cymryd: Tristan Humphreys i gydweithio ag Aled Roberts i drefnu’r
digwyddiad lansio yn y Cynulliad.
---
Cyfarfod 3.
Dyddiad y cyfarfod: 12 Mai 2015
Yn bresennol: Aled Roberts AC (Cadeirydd); Jackie Radford (Ysgrifennydd); Jean Dowding (cynrychiolydd grŵp Caerdydd); Tristan Humphreys (arweinydd cangen Cymru o Coeliac UK); Norma McGough (Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil ac Ymgyrchoedd Coeliac UK); Geraint Preest (Golygydd Clinigol Meddygon Teulu – y BMJ - Archwilio); Dr. Jill Swift (Gastroenterolegydd – Caerdydd a’r Fro); Ajay Kenth (Rheolwr Datblygu Cwmseriaid Newydd - y BMJ; Henry Wilkins (cynrychiolydd grŵp Sir Gaerfyrddin); Bronwen Wilkins (cynrychiolydd grŵp Sir Gaerfyrddin); Lindsey Dr Morgan (cynrychiolydd grŵp Abertawe); Rhun ap Iorwerth AC; Graham Phillips (cynrychiolydd grŵp Abertawe); Mike Hedges AC; Jeff Cuthbert AC; Bil Hyde (cynrychiolydd grŵp Sir Gaerfyrddin); Kathy Hyde (cynrychiolydd grŵp Caerfyrddin).
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
· Bil Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru)- cafwyd adroddiad gan Jackie Radford ar y Bil Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru) a’i effeithiau posibl ar y rhai sydd â chlefyd seliag.
Camau i’w cymryd: Jackie Radford i rannu casgliadau’r Gwasanaeth Ymchwil gyda Tristan Humphreys a chysylltu ag ef i benderfynu a oes angen archwilio’r Bil ymhellach
·
Llythyrau at y Byrddau Iechyd Lleol
Roedd dau Fwrdd Iechyd Lleol wedi ymateb i lythyr cynharach y Cadeirydd ynghylch
gweithdrefnau’n ymwneud ag alergenau. Camau i’w cymryd: Jackie
Radford i anfon ymatebion y Byrddau Iechyd Lleol at Tristan Humphreys i gael cyngor
ychwanegol.
· Y wybodaeth ddiweddaraf am feddalwedd y BMJ – Cyflwynodd Ajay Kenth o’r BMJ y feddalwedd gan esbonio’r camau nesaf yn y broses o ehangu’r defnydd ohoni.
Camau i’w cymryd: Dr Jill Swift i wneud ymholiadau ar ran y grŵp a gwahodd Dr Chris Jones neu rywun tebyg i drafod effeithiau posibl y feddalwedd ar ofal eilaidd.
·
Y wybodaeth ddiweddaraf am lansio ymgyrch
'Ai clefyd seliag sydd arna’ i ? '- Cafwyd
adroddiad gan Tristan Humphreys ar y digwyddiad lansio a soniodd am y
cynlluniau i gynnal digwyddiad yng nghanol dinas Caerdydd yn ddiweddarach yn
ystod y flwyddyn.
Cam i’w gymryd: Tristan Humphreys i gysylltu â Swyddfa Rhun Ap Iorwerth i
sicrhau brandio dwyieithog yn y digwyddiad.
Cyfarfod 4.
Dyddiad y cyfarfod: 15 Hydref 2015
Yn bresennol: Aled Roberts AC (Cadeirydd); Jackie Radford (Ysgrifennydd); Tristan Humphreys (Arweinydd cangen Cymru o Coeliac UK); Norma McGough (Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil ac Ymgyrchoedd Coeliac UK); Henry Wilkins (cynrychiolydd grŵp Sir Gaerfyrddin); Bronwen Wilkins (cynrychiolydd grŵp Sir Gaerfyrddin); Carol Carpenter (cynrychiolydd grŵp Clwyd); Heather Stephen (cynrychiolydd grŵp Clwyd).
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
· Cyfarfod cyffredinol blynyddol - etholwyd swyddogion yn unol â rheolau'r grwpiau trawsbleidiol.
· Cyfarfod rhwng yr Is-bwyllgor a Dr John Green- cafwyd adroddiad ar y cyfarfod rhwng yr is-bwyllgor a Dr John Green ynghylch gwasanaethau gastroenteroleg yng Nghymru. Camau i’w cymryd: Jackie Radford i wahodd y Gweinidog Iechyd i gyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol i drafod y materion a godwyd
· Bwydydd heb glwten ar bresgripsiwn - Cyflwynodd Norma McGough a Tristan Humphreys bapur ar fwydydd heb glwten ar bresgripsiwn yng Nghymru. Camau i’w cymryd: Tristan Humphreys i adrodd yn ôl ar oblygiadau Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) o safbwynt gwasanaethau fferyllol a rhannu casgliadau adolygiad yr Alban o’r Gwasanaeth Bwyd heb Glwten â'r grŵp.
· Meddalwedd y BMJ - dywedodd Tristan Humphreys wrth y grŵp fod y feddalwedd yn barod i'w lansio yn ystod y misoedd nesaf yn dilyn proses ymgysylltu â meddygon teulu ar hyd a lled y wlad.
· Ymgyrch diagnosis - cafwyd adroddiad gan Tristan Humphreys ar ffigurau diweddaraf yr ymgyrch gan gynnwys cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
· Canllawiau i ysgolion – mae canllawiau Cymru gyfan ar gyfer 'mynediad i addysg a chymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion meddygol' yn cael eu diweddaru ddiwedd y flwyddyn. Camau i’w cymryd: Tristan Humphreys i gysylltu â'r grŵp ynghylch dyddiadau’r ymgynghoriad.
· Adroddiad etifeddiaeth- Cytunwyd y dylai’r grŵp ddechrau gweithio ar ei adroddiad etifeddiaeth i sicrhau y gellid adeiladu ar waith y grŵp ar ôl yr etholiad.
3. Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â nhw yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Coeliac UK.
3rd Floor,
Apollo House,
Desborough Road,
High Wycombe.
Buckinghamshire.
HP11 2QW
JAG.
JAG Central Office
Care Quality Improvement Department
Royal College of Physicians
11 St Andrews Place
Regent's Park
London
NW1 4LE
BMJ
BMA House
Tavistock Square
London WC1H 9JR
United Kingdom
Datganiad Ariannol Blynyddol.
28 Hydref 2015
Cadeirydd: Aled Roberts AC
Ysgrifennydd: Jackie Radford - Swyddfa Aled Roberts AC
|
Dim. |
£0.00 |
Cost yr holl nwyddau.
|
Ni phrynwyd nwyddau. |
£0.00 |
Buddiannau a gafodd y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol.
|
Ni chafwyd buddiannau. |
£0.00 |
Ysgrifenyddiaeth neu gymorth arall.
|
Ni chafwyd cymorth ariannol. |
£0.00 |
Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, fel lletygarwch.
Talodd Coelaic UK am yr holl luniaeth.
|
||
Dyddiad |
Disgrifiad o’r darparwr a’i enw
|
Cost |
12.05.15 |
Lansio ymgyrch 'Ai clefyd seliag sydd arna’ i? yn y Cynulliad |
£172.50 |
Cyfanswm
|
£172.50 |